Byddem yn gweithio gyda WorldSkills i gyfranogi mewn cystadlaethau a’u rhedeg o fewn meysydd disgyblaeth galwedigaethol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael llwyddiant mewn sawl adran, gan gynnwys Gwallt a Harddwch, TG, Adeiladu a Pheirianneg.

Cysylltwch â’r tîm gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod

Cymrwch olwg ar wefan WorldSkills am ragor o wybodaeth.

  • Mae WorldSkills yn grŵp sy’n gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, colegau a llywodraethau, gyda nod o roi cyfleoedd i bobl ifanc gael y cychwyn gorau ar eu gyrfaoedd.
  • Hyrwyddo prentisiaethau ac addysg dechnegol fel llwybr gyrfa nodedig i bob unigolyn ifanc.
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn aelod balch o WorldSkills UK – sy’n rhan o fudiad byd-eang o 85 o wledydd ledled y byd.

Mae WorldSkills yn ysbrydoli pobl ifanc trwy adnoddau sy’n rhoi arweiniad ar yrfaoedd, gyda’r nod o wneud y dewis i gyflawni rhagoriaeth trwy brentisiaethau ac addysg dechnegol ar eu llwybr tuag at wireddu eu potensial, beth bynnag y bo eu cefndir neu amgylchiadau.

Datblygu rhagoriaeth mewn pobl ifanc trwy brofi ac asesu eu sgiliau a’u gwybodaeth yn erbyn eu cyfoedion, trwy gyfrwng rhaglenni cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, gan wella eu hyder a’u potensial.

Mae WorldSkills yn prif ffrydio rhagoriaeth fyd-eang i helpu i wella safonau dysgu, hyfforddi ac asesu trwy feincnodi rhyngwladol, er mwyn helpu pobl ifanc, cyflogwyr ac economi’r DU i lwyddo.

Cystadlaethau Sgiliau

  • Dylunnir Cystadlaethau Sgiliau gan arbenigwyr o feysydd diwydiant, ac maen nhw’n asesu gwybodaeth, sgiliau ymarferol a nodweddion unigolion o safbwynt cyflogadwyedd yn erbyn meini prawf gosodedig, mewn amgylchedd cystadleuol wedi’i amseru
  • Caiff unigolion fanteisio ar y cyfle i fireinio sgiliau, nodweddion ac ymddygiadau hanfodol sy’n werthfawr i gyflogwyr, ynghyd â datrys problemau, hunanystyried, rheoli amser a’r gallu i weithio o dan bwysau
  • Mae rhaglenni’n galluogi cyfranogwyr i ddod â sgiliau o safon fyd-eang yn ôl i’w sefydliadau, gan hybu cynhyrchiant
  • Mae cystadlaethau’n galluogi busnesau ac addysg i feincnodi yn erbyn safonau perfformiad cenedlaethol a rhyngwladol