Beth yw Addysg Gysylltiedig â Gwaith (AGG)?

AGG yw unrhyw ddysgu ychwanegol neu weithgaredd cyfoethogi neu gyfoethogi y tu hwnt i’r cwricwlwm sy’n darparu profiad o’ch diwydiant dewisedig yn y byd go iawn.

Ein nod yw darparu mynediad i weithgareddau cyfoethogi sy’n gysylltiedig â gwaith i gymaint o ddysgwyr â phosib, sydd wedi’u haddasu ar eich cyfer chi a’ch nodau.

Er y treulir y mwyafrif o’ch oriau AGG ar leoliadau gwaith, bydd unrhyw weithgareddau cyfoethogi sy’n ymwneud â diwydiant yn cyfrif tuag at eich oriau hefyd.

Gall profiad ychwanegol fel Darlithoedd gan Ddarlithwyr Gwadd, Cystadlaethau, Sesiynau Briffio Byw a Thripiau gyfrif tuag at eich oriau AGG i ychwanegu at eich Lleoliad Gwaith.

Byddwch yn defnyddio ein system Grofar ar-lein i gofnodi, tracio a nodi gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd, gan gynnwys oriau lleoliadau gwaith. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

Pam fod AGG Mor Bwysig?

  •          Ennill Profiad o Ddiwydiant yn y Byd Go Iawn.
  •          Rhoi eich Gwybodaeth ar Waith.
  •          Cyfoethogi eich CV a sefyll allan o safbwynt darpar Gyflogwyr.
  •          Cael eich troed yn y drws a gwneud cysylltiadau o fewn eich diwydiant.
  •          Gall Lleoliadau Gwaith Llwyddiannus arwain at gyflogaeth ran amser wrth i chi barhau â’ch astudiaethau.

Eich Lleoliad Gwaith gyda CAVC

Ar ôl Cytuno ar Leoliad;

  • Byddwn yn nodi manylion eich lleoliad ac yn cysylltu â’ch cyflogwr i gadarnhau’r lleoliad.
  • Byddwn wedyn yn gofyn am ddogfennaeth yswiriant ac Iechyd a Diogelwch gan eich cyflogwr.
  • Wedyn, bydd ein Haseswr Iechyd a Diogelwch yn ymweld â’r busnes i’w gymeradwyo.

Byddwn hefyd yn cael y canlynol gennych;

  • Ffurflen ganiatâd rhieni (os ydych o dan 18).
  • Ffurflen Dysgwr Sy’n Agored i Niwed (mae hon yn rhoi gwybod i ni p’un a oes unrhyw beth pwysig y mae angen i ni roi gwybod i’r busnes yn ei gylch er mwyn i ni roi gwell cefnogaeth i chi ar eich lleoliad).

Unwaith y cawn yr holl ddogfennau a fynnir gennym, a bod y broses fetio wedi’i chwblhau, gall eich lleoliad gychwyn.

Mae Argraffiadau Cyntaf yn Hollbwysig;

Sicrhewch eich bod yn cyrraedd mewn pryd, yn barod i weithio.

  • Gwiriwch a dilynwch y polisi o ran y cod gwisg.
  • Cyfarchwch eich cydweithwyr a’r cyhoedd mewn modd proffesiynol a chwrtais (gwnewch gyswllt llygad).
  • Cadwch eich ffôn onid ydych yn cael egwyl (cadwch o yn eich bag neu yn yr ystafell staff).
  • Dilynwch bolisi cyfryngau cymdeithasol y sefydliad.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau – dangoswch faint o ddiddordeb sydd gennych a pha mor frwdfrydig ydych chi am eich maes. Gwnewch wir ymdrech i fynd i’r afael â’ch lleoliad gwaith – po fwyaf yr ydych yn ei gyfrannu, y mwyaf y byddwch chi’n elwa!
  • Ar ôl cofnodi a chadarnhau eich oriau, cyflwynir hyn i’ch tiwtoriaid a’ch Swyddogion Lleoliadau Gwaith eu hasesu a’u gwirio. Mae hyn hefyd yn gyfle i chi fyfyrio am eich amser ar eich lleoliad:
  • Sicrhewch eich bod yn cysylltu â darparwr eich lleoliad i ddiolch iddo am ei amser a’i help. Mae hyn yn gadael argraff gadarnhaol ar y cyflogwr, a gall adael y drws ar agor i gael geirdaon neu hyd yn oed gyflogaeth yn y dyfodol

Eich Swyddogion Lleoliadau Gwaith

Craig Wade – CWade@cavc.ac.uk

  • Busnes, Cyllid ac Astudiaethau Proffesiynol
  • Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Awyrofod
  • Peirianneg a Modurol

Gavin Owen – GOwen1@cavc.ac.uk

  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Gwasanaethau Adeiladu
  • Gofal Plant
  • Gofal Iechyd a Chymdeithasol

Lucas Eldridge – LEldridge@cavc.ac.uk

  • Gwallt a Harddwch
  • Diwydiannau Creadigol
  • Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu (PWLL)
  • Game Design

Canllawiau ac Adnoddau Defnyddiol