Gwybodaeth i Rieni, Gofalwyr a Chefnogwyr.

Yma yn CAVC, rydym yn cydnabod y rôl allweddol y mae rhieni, gofalwyr a chefnogwyr yn ei chwarae wrth helpu eu person ifanc i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag addysg a gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau gyrfa a cham nesaf yn ogystal â sicrhau bod gan bob dysgwr yr hawl i gyngor arbenigol ac arweiniad.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chi i sicrhau bod ein dysgwyr yn deall y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i fynd i’r byd gwaith.

Gwefannau ac Adnoddau Defnyddiol

Mae yna lawer o wybodaeth ar gael ac fe all fod yn anodd gwybod ble i ddechrau! Yma yn Gyrfaoedd a Syniadau rydym yn darparu cyngor ac arweiniad diduedd ar bob cam o’r ffordd. Cysylltwch â’r tîm drwy careers@cavc.ac.uk

Fe welwch isod wybodaeth am rai o’r lleoedd gorau i ddod o hyd i wybodaeth ynghylch gyrfaoedd ac arweinid i helpu eich person ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf.

Mae Career Pilot yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau Gyrfa i bobl ifanc 11-19 oed, a’r cyfan yn yr un lle. Gwych ar gyfer cwisiau ‘paru gyrfa’, sectorau swyddi a gwybodaeth ynghylch opsiynau addysg a gyrfa yn y dyfodol.

Mae gan Gyrfa Cymru adran i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid, i helpu eich plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa. Yma, cewch fynediad at weminarau ac adnoddau i helpu gydag addysg Gyrfaoedd.

Fideos gyrfa bywyd go iawn, gwybodaeth a chyngor i helpu i ysbrydoli dewisiadau a chynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd. Cliciwch yma

Gwybodaeth a chyfleoedd i’r rhai nad ydynt yn dymuno mynd i’r Brifysgol ar ôl coleg. Yma cawn weld beth arall sydd ar gael.

Yma cewch lawer o adnoddau a gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i gynorthwyo myfyrwyr sy’n gwneud cais i fynd i brifysgol.

Gall prentisiaeth fod yn opsiwn gwych i fyfyrwyr sy’n gadael addysg llawn amser. Mae’n llwybr sy’n caniatáu iddynt ennill cyflog wrth ddysgu, cael profiad gwerthfawr mewn swydd a chyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae gan Amazing Apprenticeships barth rhieni gwych gyda chyngor defnyddiol i rieni a gofalwyr. Ewch i wrando ar y podlediadau hefyd!