Eich gwasanaeth cyngor gyrfa teilwredig.

P’un a oes gennych gynllun gyrfa mewn golwg, neu angen help i benderfynu beth i’w wneud nesaf, bydd ein Hyfforddwyr Gyrfa yn gallu eich cynorthwyo. Gallwn gynnig cyngor teilwredig i gyd-fynd â’ch anghenion a’ch cymwysterau, a’ch helpu i benderfynu ar eich camau nesaf… A dim ond y dechrau yw hyn.

Nid dim ond gyrfaoedd ydyw...

Nid dim ond arweiniad ar swyddi yw cyngor gyrfa. Mae’n ymwneud â sut i gyrraedd yno hefyd.

Yn ogystal â chyngor ar lwybrau gyrfa, gall ein Hyfforddwyr Gyrfa eich helpu gyda:

  • Ceisiadau UCAS/Prifysgol
  • Cymorth dilyniant
  • Dewisiadau cwrs
  • Sgiliau trosglwyddadwy

Hoffwn gael cyngor - Beth nesaf?

Angen cyngor ond ddim yn siŵr ble i fynd? Dyma’r wybodaeth ynghylch ble i archebu unrhyw un o’n gwasanaethau a restrir ar y dudalen hon.

Chwilio am gyngor wyneb yn wyneb? Gwych – Dyma ein hargaeledd.

Canol y Ddinas (Heol Dumballs) 

Ystafell 126

Llun-Gwener 9am-5pm

Penwythnosau: Ar gau

Y Barri (Heol Colcot):

Ystafell Gyrfaoedd a Syniadau (drws nesaf i’r dderbynfa)

Penwythnosau: Ar gau

Mae’r tîm Gyrfaoedd a Syniadau ar ein campws yn y Barri am 3 diwrnod pob wythnos. Galwch heibio’r ystafell yrfaoedd a byddwn yn gallu eich gweld yn y fan ar lle, neu drefnu apwyntiad gyda chi os nad oes Hyfforddwr Gyrfa ar gael y diwrnod hwnnw.

Fel arall, gallwch anfon e-bost atom i careers@cavc.ac.uk i drefnu apwyntiad ar ddiwrnod ac amser penodol.

Pob safle arall:

Anfonwch e-bost atom i careers@cavc.ac.uk. Byddwn yn gwirio a oes Hyfforddwr Gyrfa ar gael i’ch gweld ar eich campws.

Chwilio am gyngor dros y ffôn? Dim problem.

Anfonwch e-bost atom i careers@cavc.ac.uk a chynnwys y manylion canlynol:

  • Ar beth fyddwch chi angen cyngor
  • Pryd yw’r amser gorau i gysylltu â chi
  • Beth yw’r rhif ffôn gorau i’w ddefnyddio i gysylltu gyda chi
  • Eich rhif myfyriwr, os oes gennych chi un

Fe geisiwn gysylltu’n ôl â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd ychydig yn hirach ar adegau prysur (Awst/Medi), ond fe geisiwn ddarparu cymorth cyn gynted ag y bo modd.

Hoffech chi gael cyngor drwy e-bost? Gallwn ni eich helpu.

Anfonwch e-bost atom i careers@cavc.ac.uk a gadewch i ni wybod pa gymorth hoffech chi ei gael.

Cofiwch ddweud wrthym gyda beth yr hoffech gael help, ac unrhyw wybodaeth arall allai fod yn berthnasol i’ch ymholiad. Y mwyaf o wybodaeth sydd gennym, y cyflymaf y gallwn eich helpu chi.

Fe geisiwn gysylltu’n ôl â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd ychydig yn hirach ar adegau prysur (Awst/Medi), ond fe geisiwn ddarparu cymorth cyn gynted ag y bo modd.

Eich Hyfforddwyr Gyrfaoedd

Melissa Wilson:

Gyda chefndir mewn derbyniadau prifysgol a diddordeb mawr yn y sector addysg, blaenoriaeth Melissa yw sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael y cyfle maent yn ei haeddu i gyflawni eu nodau.

  • Adeiladu
  • Busnes, Cyllid a TG
  • ESOL

Kevin Doherty:

Mae Kevin wedi gweithio mewn swyddi gofal bugeiliol mewn nifer o undebau myfyrwyr, prifysgolion a cholegau. Mae’n wyneb cyfeillgar sydd wrth ei fodd yn cynorthwyo ein dysgwyr gydag arweiniad gyrfa.

  • Gwasanaethau Adeiladu
  • Celfyddydau Creadigol
  • Gofal Iechyd

Liz Lewis:

Mae Liz, oedd yn arfer gweithio fel Hyfforddwr Rhwyfo gyda Rhwyfo Cymru, wedi ymrwymo i gynorthwyo’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr i gyflawni eu nodau.

  • Addysg Gyffredinol
  • Awyrofod
  • Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Teithio a Thwristiaeth
  • PWLL/ILS

Lucas Eldridge:

Mae Lucas yn dod o gefndir celfyddydau creadigol a cherddoriaeth, ac mae ganddo hefyd brofiad mewn diwydiannau corfforaethol, manwerthu a gwasanaeth. Mae Lucas yn awyddus i feithrin twf ac angerdd mewn dysgwyr i sicrhau eu bod yn dilyn eu trywydd.

  • Modurol a Pheirianneg
  • Gwallt a Harddwch
  • Lletygarwch

Bydd yr hyfforddwyr uchod yn ymdrin ag ymholiadau fesul achos hefyd:

  • ESOL
  • Addysg Gyffredinol
  • Addysg Uwch
  • Mynediad

 

Ar gyfer pob ymholiad cymorth gyrfa, e-bostiwch ni drwy careers@cavc.ac.uk.

Nodwch nad ydym yn ymdrin ag ymholiadau ynghylch gweithio yn y coleg; ewch i wefan graidd CAVC i gael gwybodaeth am swyddi o fewn y coleg yma.

Adnoddau a Blogiau

Dyma rai o’n hoff adnoddau, blogiau a sefydliadau gyrfaoedd. Cymerwch olwg arnynt am gyngor ac arweiniad gyrfa ychwanegol!

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yw gwasanaeth cyngor gyrfa Llywodraeth y DU. Cewch wybodaeth ynghylch cannoedd o lwybrau gyrfa, cyfleoedd hyfforddi, a dewisiadau dilyniant yma.

Mae Prospects yn cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch nifer fawr o lwybrau gyrfa. Ddim yn siŵr sut i gael yr yrfa ddelfrydol? Prospects yw’r lle i fynd.

Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich gyrfa, eich paratoi i gael swydd, a dod o hyd i’r brentisiaeth, cwrs a hyfforddiant cywir a gwneud cais amdano.

Os ydych yn gwneud cais i Brifysgol, bydd angen i chi ymgyfarwyddo ag UCAS. Mae ganddynt ystod o ganllawiau ac adnoddau i’ch helpu gydag unrhyw beth – o greu cyfrif, i ysgrifennu datganiad personol gwych. Gallwch weld y canllawiau fan hyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaethau ond ddim yn siŵr ble i fynd, cymerwch olwg ar wefan prentisiaethau y Llywodraeth. Mae’n llawn cyngor ac arweiniad defnyddiol i’ch helpu ar eich ffordd.