Melissa Wilson
Hyfforddwr Gyrfa
Mae gan Melissa gefndir mewn derbyniadau i brifysgolion a diddordeb brwd yn y sector addysg, mae’n flaenoriaeth i Melissa sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle y mae’n ei haeddu i gyflawni ei nodau. Mae Melissa yn edrych ymlaen at gefnogi holl fyfyrwyr CAVC drwy gydol eu taith fel dysgwr.
Liz Lewis
Hyfforddwr Gyrfa
Liz yw ein Hyfforddwr Gyrfaoedd yn gysylltiedig â’r gyfadran Sylfeini i Ddysgu. Mae Liz yn darparu addysg, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i ddysgwyr gan eu cefnogi drwy gydol eu siwrnai fel dysgwyr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn Hyfforddwr Rhwyfo gyda Rhwyfo Cymru ac, ar hyn o bryd, mae’n diwtor ar y genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr. Yn ymroddedig ac angerddol am ei rôl yn cefnogi myfyrwyr, ar hyn o bryd mae’n ymgymryd â’r cymhwyster Gwybodaeth.
Rebecca Lewis
Rheolwr Gyrfaoedd, Menter a Dilyniant
Becky yw ein Rheolwr Gyrfaoedd, Menter a Dilyniant. Ei rôl yw arwain gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad (IAG) ar draws y coleg, gan gynnwys yr Hwb ‘Gyrfaoedd a Syniadau’ a gwasanaeth cyngor, arweiniad a throsglwyddo grŵp CAVC ‘siop un stop’. Mae Becky bob amser wedi gweithio ym maes Addysg ac mae’n angerddol am ddarparu cyfle i bob myfyriwr gael mynediad at addysg ac arweiniad gyrfaoedd gwych ac i wella eu sgiliau yn ystod eu hamser yma.
Y tu allan i’r gwaith mae Becky wrth ei fodd â thaith gerdded dda (neu redeg) ar hyd llwybr arfordirol neu ddim ond cyrlio i fyny gyda choffi a llyfr da.
Shannon Bunney
Swyddog Cyflogaeth
Mae gan Shannon angerdd dros addysg a helpu eraill ac mae’n gyffrous am ddefnyddio hyn wrth helpu dysgwyr yn CCAF! Cyfrifoldeb Shannon yw eich cefnogi chi gyda’ch cyflogadwyedd, os yw hynny drwy eich paratoi ar gyfer eich cyfweliadau neu helpu gyda CV a chysylltu â chyflogwyr i gael y rôl orau bosibl i chi!
Yn ei hamser hamdden mae Shannon wrth ei bodd yn gwrando ar gerddoriaeth o bob genre; o’r 60au i R&B, mae’n gwrando ar y cyfan! Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded yn yr awyr agored ac ysgrifennu!
Mae Shannon yn edrych ymlaen yn fawr at helpu pob un ohonoch chi yma yn CAVC.
Sally Mogridge
Swyddog WorldSkills
Sally yw ein Swyddog WorldSkills. Mae hi’n gweithio ar gydlynu’r cystadlaethau sgiliau trwy gydol y flwyddyn ac yn ceisio hyrwyddo natur gyflogadwy’r cystadlaethau. Maen nhw’n gyfle gwych i ddangos y sgiliau rydych chi’n eu datblygu trwy’ch cwrs mewn amgylchedd cystadleuol iach a, gyda llwyddiant, gallant eich arwain i gystadlu ar lefelau rhyngwladol gan gynrychioli’r wlad yn y sgiliau sydd gennych. Os oes gennych chi’r hyn sydd ei angen a bod gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech chi gael gwybod mwy anfonwch e-bost ati smogridge@cavc.ac.uk neu ewch draw i siarad â’r tîm gyrfaoedd a syniadau! Rhowch gynnig arni, wyddoch chi byth!
Y tu allan i’r gwaith mae Sally wrth ei bodd yn crwydro cefn gwlad Cymru yn gwersylla, nofio a heicio.