Beth rydym yn ei wneud:

Mae Aspire yn cynnig y cyfle i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â chael gwaith.

Gall adran cyflogadwyedd Aspire eich cefnogi gyda:

  • Swyddi Gwag
  • Recriwtio
  • Sgiliau
  • Trosglwyddadwy
  • Gweithdai
  • Cefnogaeth Ymgeisio ac Ysgrifennu CV
  • Sgiliau Cyfweld
  • Digwyddiadau
  • Cyflogwyr a Dilyniant

Mae ein Swyddogion Cyflogaeth yn gweithio’n galed i adeiladu cysylltiadau defnyddiol i gyflogaeth, prentisiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae hyn yn amrywio o hysbysebu swyddi gweigion i gyflogwyr, gweithredu fel gwasanaeth recriwtio a lleoli myfyrwyr mewn gwaith, i gysylltu â gwirfoddolwyr lleol i fyfyrwyr adeiladu eu set sgiliau trwy wirfoddoli. Mae ein swyddi gweigion yn amrywio o swyddi rhan-amser tra byddwch yn astudio gyda ni ac amser llawn pan fyddwch yn symud ymlaen i’ch pennod nesaf. Os ydych yn chwilio am swydd gallwch ymuno â’n tudalen timau lle rydym yn postio swyddi gwag rheolaidd, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein cronfa dalent, yn ogystal â defnyddio’r adran swyddi gwag ar y wefan. Gweler ein hadran dolenni defnyddiol i weld dolenni i’n tudalen timau a’n cronfa dalent.

 

Mae adran gyflogaeth Dyheu yn cynnig cyngor 1:1 pwrpasol hefyd.

Gellir cynnal y sesiynau hyn yn unigol, trwy Teams neu drwy’r e-bost os yw’n well gennych hynny:

  • Cynigiwn sesiynau unigol i’r rheiny sydd eisiau creu/golygu CV, yn ogystal â llythyrau eglurhaol (lle gallwn hefyd ddarparu arweiniad, adnoddau a thaflenni gwaith defnyddiol).
  • Cynigiwn sesiynau 1:1 ar sgiliau cyfweld, sy’n gallu cynnwys cyfweliad ffug, mynd dros gwestiynau cyfweliad posib, canfod sgiliau trosglwyddadwy ynghyd â pharatoi ar gyfer cyfweliadau yn gyffredinol.
  • Gall ein sesiynau 1:1 eich helpu hefyd i ganfod a defnyddio eich sgiliau trosglwyddadwy.
  • Cynigiwn gyngor 1:1 am y swyddi mwyaf addas ar eich cyfer, p’un a yw’r rheiny’n rhai rhan amser i feithrin eich sgiliau yn ystod eich amser yn y coleg, neu gallwn drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi ar ôl i chi adael y coleg.
  • Gallwn eich helpu i ganfod rolau o fewn yr ardal leol, yn ogystal â thu hwnt, ynghyd â chynnig dolenni ar gyfer cysylltiadau o safbwynt recriwtio.

Dewch draw i gael sgwrs trwy wneud apwyntiad! Anfonwch e-bost at: Aspire@cavc.ac.uk i drefnu apwyntiad.

Mae’r Swyddogion Cyflogaeth yn cynnig ‘Rhaglen Gyflogaeth’ i ddysgwyr o fewn CAVC, lle byddwn yn dod i mewn i ddosbarthiadau ac yn cynnig gweithdai defnyddiol ar feithrin y sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr hynny.

Mae’r gweithdai hyn yn cynnwys:

  • Sesiynau Cwrdd a Chyfarch
  • Gweithdy ar Lunio CV a Llythyrau Eglurhaol
  • Gweithdai ar Chwilio am Swyddi a Llunio Ceisiadau
  • Gweithdy Ffurflenni Cais
  • Gweithdy LinkedIn
  • Gweithdy Sgiliau Cyfweld
  • Gweithdy Paratoi am Waith

Mae’r gweithdai hyn yn helpu i ddatblygu’r sgiliau gwerthfawr hynny sy’n ein helpu i gael i mewn i weithle, a hefyd i ddeall y sgiliau trosglwyddadwy sydd gennym eisoes efallai!

Gall tiwtoriaid drefnu’r gweithdai hyn trwy e-bost/Teams ein Swyddog Cyflogaeth.

Mae Dyheu yn cynnig digwyddiadau pwrpasol ar gyfer recriwtio a gyrfaoedd. I ddysgu rhagor am ddigwyddiadau sydd i ddod a’r hyn a wneir gennym, gweler y dudalen ddigwyddiadau os gwelwch yn dda. Gallwch hefyd gael golwg ar ein digwyddiadau blaenorol yma trwy ein tudalen newyddion.