Cyflogadwyedd
Yma yn Dyheu, rydym yn ymfalchïo yn yr hyn y gallwn ei wneud i’ch helpu i baratoi am swydd. P’un a yw hynny trwy gyflogaeth neu hunangyflogaeth, rydym yma i helpu! Gall ein gwasanaeth cyflogadwyedd pwrpasol helpu gyda phopeth, CV, paratoi am waith, cyfweliadau a mwy! Cliciwch yma i ddysgu rhagor am yr hyn y gallwn ei wneud ar eich cyfer.
Menter
Menter @ CAVC
Mae Dyheu @ CAVC yn dod ag Entrepreneuriaeth atoch chi. Ein nod yw ymgysylltu, cymhwyso a grymuso dysgwyr ar draws y cwricwlwm i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd trwy amrywiaeth o weithgareddau:
· Sgyrsiau a Gwesteion
· Gweithdai
· Cystadlaethau
· Digwyddiadau
· Profi Crefftau
· Sesiynau Briffio Byw
· Tripiau
Digwyddiadau
Nod ein digwyddiadau Dyheu yw darparu profiad unigryw i bob un o’n dysgwyr yn CAVC. Rydym yn addasu bob un o’n digwyddiadau gyda chynnydd ein dysgwyr mewn meddwl.
Ym mhob un o’n digwyddiadau, mae aelodau o’n Tîm Gyrfaoedd yno i ddarparu rhagor o gymorth, cyngor a chyfarwyddyd.
Yma yn Dyheu, credwn y dylid gwneud pob digwyddiad yn brofiad cofiadwy trwy gynnig yr amryw gyfleoedd hynny sydd fwyaf addas ar gyfer ein dysgwyr.