Lansiad Aspire a Ffair Swyddi'r Haf

Lansiad Aspire a Ffair Swyddi’r Haf

Yn ystod mis Mai buom yn brysur yma yn Aspire yn lansio ein gwasanaeth ac yn trefnu digwyddiad wedi ei anelu at rolau rhan amser dros yr haf.

Gwnaethom gynnal y digwyddiad ar Gampws Canol y Ddinas a Champws y Barri ar ddau ddyddiad ac ymgysylltu â dros 600 o ddysgwyr.

Buom yn gweithio gyda nifer o fusnesau a chyflogwyr lleol a ddaeth i’r digwyddiad i hysbysebu eu swyddi gwag a derbyn cofrestriadau ar y diwrnod! Cawsom Weatherspoon’s, Greggs, Principality, Hafod, a chymaint mwy yn hysbysebu eu hamrywiaeth o swyddi gwag yn ogystal â chynnig cyngor ymgeisio.