Beth yw Menter ac Entrepreneuriaeth?

Hunangyflogaeth, llawrydd, cychwyn busnes… Menter ac Entrepreneuriaeth yw’r cyfan. Yn syml, mae entrepreneur yn rhywun sy’n rhedeg ei fusnes ei hun. P’un a ydych chi’n astudio Busnes, Celf a Dylunio, neu unrhyw beth yn y canol, fe allech chi ddod yn fos arnoch chi’ch hun ac ymuno â’r 15% o oedolion cyflogedig yng Nghymru sy’n gweithio iddyn nhw eu hunain.

 

Beth yw'r gwahanol fathau o Fenter?

Yn gyffredinol, mae menter yn perthyn i dri chategori. Mae pob un o’r opsiynau isod yn ymwneud â dechrau busnes a bod yn hunangyflogedig, ond mae rhai gwahaniaethau rhyngddynt.

Mae menter yn fusnes a redir gan rywun hunangyflogedig. Mae’n gyfrifol am lwyddiant a methiant ei fusnes. Nid yw’n cael ei dalu trwy PAYE, ac yn lle hynny, mae’n derbyn ei incwm yn uniongyrchol gan gwsmeriaid.
Hefyd, mae pobl hunangyflogedig yn gyfrifol am dalu eu trethi i’r llywodraeth (trwy CThEM).

Bydd angen iddynt gofrestru eu bod yn hunangyflogedig cyn dechrau masnachu. Gall rhywun fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd, er enghraifft, os ydyn nhw’n gweithio i gyflogwr yn ystod y dydd ac yn rhedeg eu busnes eu hunain gyda’r nos.

Mae pobl hunangyflogedig yn gweithio ym mhob diwydiant, ond maen nhw’n fwy cyffredin mewn rhai meysydd nag eraill. Dyma rai swyddi sydd yn aml yn cynnwys pobl hunangyflogedig:

  • Cyfrifydd
  • Therapydd Harddwch
  • Cogydd
  • Gwarchodwr Plant
  • Glanhäwr
  • Cludwyr
  • Crëwr Cynnwys
  • Asiant Eiddo
  • Dylunydd Ffasiwn
  • Garddwr
  • Tasgmon
  • Triniwr Gwallt
  • Tirluniwr
  • Labrwr
  • Hyfforddwr Personol
  • Manwerthwr
  • Artist Tatŵau
  • Tiwtor

Mae gweithwyr llawrydd yn bobl hunangyflogedig sy’n cynnig eu sgiliau a’u galluoedd i nifer o gleientiaid ar sail hyblyg. Mae ganddyn nhw’r rhyddid i ddewis pa brosiectau a chleientiaid yr hoffent weithio iddyn nhw, nid ydyn nhw wedi’u hymrwymo i un cwsmer. Bydd llawer o weithwyr llawrydd yn gweithio ar amryw brosiectau i wahanol gleientiaid ar yr un pryd.

Tra bo cytundebau llawrydd hirdymor yn bodoli, mae’n llawer mwy cyffredin i weithio ar brosiectau diffiniedig am gyfnodau byr.

Gall gweithiwr llawrydd weithio o adref, mewn swyddfa wedi’i rhentu, neu rywle sy’n eiddo i gleient. Bydd rhai yn gwneud gwaith llawrydd yn llawn amser, ac eraill yn cydbwyso hyn â chyflogaeth arferol.

Pa swyddi alla’ i eu gwneud fel gweithiwr llawrydd?

Mae llawer o rolau a diwydiannau’n cyflogi gweithwyr llawrydd. Mae’r swyddi hyn ymhlith y rhai mwyaf cyffredin:

  • Cynghorydd busnes
  • Gweinyddwr cronfeydd data
  • Rheolwr digwyddiadau
  • Golygydd ffilmiau/fideos
  • Arlunydd ym maes Celfyddyd Gain
  • Dylunydd Graffeg
  • Darlunydd
  • Cyfieithydd ar y Pryd
  • Ymgynghorydd TG
  • Newyddiadurwr cylchgronau
  • Arlunydd colur
  • Cerddor
  • Newyddiadurwr papurau newydd
  • Hyfforddwr personol
  • Ffotograffydd
  • Golygydd copïau/darllenwr proflenni ym maes cyhoeddi
  • Rheolwr cyfryngau cymdeithasol
  • Cyfieithydd
  • Dylunydd gwefannau
  • Datblygwr gwefannau
  • Awdur

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gweithio’n llawrydd a bod yn hunangyflogedig?

Bydd gweithwyr llawrydd yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain, yn derbyn contractau gan ychydig o gleientiaid ar y pryd, a byddant yn gweithio yn ôl gofynion y cleient am bris a gytunwyd, yn dibynnu ar y gwaith a fynnir.

Er enghraifft, gall arlunydd llawrydd gytuno i greu set benodol o gelfwaith ar gyfer cwmni gemau fideo. Bydd y cleient yn gosod y fanyleb ar gyfer y gwaith a bydd yr arlunydd yn cynnig pris iddo am y gwasanaeth hwn.

Ran amlaf, bydd rhywun hunangyflogedig yn  cynnig set o gynhyrchion neu wasanaethau a sefydlwyd ymlaen llaw i gwsmeriaid, am bris penodedig. Mae’n fwy tebygol y bydd gan rywun hunangyflogedig weithwyr, neu ei fod yn gweithio gydag eraill fel rhan o’i fusnes.

Er enghraifft, bydd triniwr gwallt hunangyflogedig yn codi pris penodedig ar ei gleientiaid, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddewisir ganddynt o restr o opsiynau sydd ar gael.

Mae menter gymdeithasol yn fusnes a chanddo’r prif ddiben o fynd i’r afael â materion cymdeithasol neu amgylcheddol, yn hytrach na chreu elw i berchnogion neu gyfranddalwyr.

Maen nhw’n dod â natur entrepreneuraidd y sector preifat a gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus ynghyd. Maen nhw’n cael effaith gymdeithasol gadarnhaol trwy eu camau gweithredu a’r hyn a gyflawnir ganddyn nhw.

Mae rhywun sy’n berchen ar fenter gymdeithasol yn dal i fod yn hunangyflogedig.

Cymrwch olwg ar y fideo isod am enghreifftiau gwych o fentrau cymdeithasol.

Social Enterprise UK: Michael Sheen wants to know where you buy your socks.

Social Enterprise UK: Michael Sheen, Chris Addison, Caitlin Moran and Sali Hughes explain ‘Social Enterprise’.

Menter @ CAVC

Mae Dyheu @ CAVC yn dod ag Entrepreneuriaeth atoch chi. Ein nod yw ymgysylltu, cymhwyso a grymuso dysgwyr ar draws y cwricwlwm i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd trwy amrywiaeth o weithgareddau:

  • Sgyrsiau a Gwesteion
  • Gweithdai
  • Cystadlaethau
  • Digwyddiadau
  • Profi Crefftau
  • Sesiynau Briffio Byw
  • Tripiau

Rydw i eisiau cychwyn busnes – Beth yw’r cam nesaf?

P’un a oes gennych fusnes sydd wedi’i hen sefydlu neu syniad syml, rydym ni yma i’ch helpu i gymryd eich camau nesaf.

Trefnwch apwyntiad â’ch Swyddog Menter i drafod eich syniadau, cewch gyfle i ganfod p’un ai hunangyflogaeth yw’r trywydd iawn i chi, ac i archwilio beth fydd angen i chi ei wneud i wireddu eich syniadau.

Abs Bailey – Aspire@cavc.ac.uk

Yn chwilio am ragor o gymorth, neu eisiau cael mwy o wybodaeth cyn i chi drefnu apwyntiad? Cymrwch olwg ar yr adnoddau hyn.

Ydych chi’n 18-24 oed ac yn chwilio am Gymorth Busnes? Cymrwch olwg ar Syniadau Mawr Cymru am wybodaeth am hunangyflogaeth, storïau ysbrydoledig, a chymorth gan gynghorydd busnes penodedig.

Ydych chi’n 25 oed neu drosodd ac yn chwilio am Gymorth Busnes? Busnes Cymru yw gwasanaeth penodedig Llywodraeth Cymru i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at entrepreneuriaeth. Cymrwch olwg ar y cyngor, y wybodaeth a’r adnoddau a gynigir ganddyn nhw.

Mae Enterprise Nation yn gymuned fywiog o fusnesau bach a chynghorwyr busnes sy’n bodoli i’w wneud yn haws i chi gael cymorth busnes y gallwch ymddiried ynddo. P’un a ydych yn cychwyn neu’n tyfu busnes, mae ganddyn nhw’r adnoddau, yr arbenigedd, a’r cysylltiadau i’ch helpu i wneud pethau’n iawn.

Cenhadaeth UnLtd yw ymgysylltu â phobl a rhyddhau eu grym er mwyn trawsnewid y byd y maen nhw’n byw ynddo. Trwy eu Rhaglen Wobrwyo gystadleuol, maen nhw’n cynnig cymorth i Entrepreneuriaid Cymdeithasol o bob oed, ar amryw adegau yn ystod eu taith.

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn credu y dylai bob unigolyn ifanc gael y cyfle i elwa ar gyfleoedd cyffrous. Maen nhw’n helpu rhai 11-30 oed i ganfod yr adnoddau a’r hyder i roi cynnig ar gyrsiau yn rhad ac am ddim, ynghyd â chychwyn gyrfaoedd, gan gynnwys dod yn entrepreneur.

Mae ICE Cymru yn ofod gweithio ar y cyd a leolir yng Nghaerffili y gall unrhyw un sy’n cychwyn busnes fynd iddo i ryngweithio a chael cymorth gan gyd-entrepreneuriaid mewn amgylchedd cyfeillgar a chreadigol.

Mae pob math o adnoddau ar gael o fewn y maes – dyma rai o’n ffefrynnau.

Byddwn yn diweddaru’r rhestr hon fel y down o hyd i ragor o adnoddau gwych, felly cadwch lygad arni.

Y Celfyddydau Creadigol

  • Creative Lives in Progress: Blog sy’n bodoli’n unswydd i roi cyngor o safbwynt gweithio’n llawrydd ar gyfer bobl greadigol hunangyflogedig, sy’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer dylunwyr graffeg, ffotograffwyr a darlunwyr.
  • Amy Clarke Films: Blog sy’n bodoli’n unswydd i roi cyngor o safbwynt gyrfaoedd a gweithio’n llawrydd i bobl sy’n meddwl am fynd i mewn i’r diwydiant Ffilmiau/Teledu.
  • Association of Illustrators: Cymdeithas nad yw’n gwneud elw sy’n hyrwyddo darlunwyr a’r diwydiant darlunio trwy addysg a hybu’r diwydiant, ynghyd ag ymgyrchu o fewn y maes i sicrhau ei ffyniant i bawb.
  • Startups. Guide:Sut i sefydlu siop Etsy.
  • UAL Guide: Sut i gael eich talu (a beth i’w wneud os nad yw eich cleient yn talu).
  • UAL Guide: Awgrymiadau ar gyfer arddangos mewn Sioeau Masnach.

Gwasanaethau Adeiladu

Gofal Plant

  • PACEY:PACEY yw’r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar. Mae ganddi lawer o adnoddau i’r rheiny sy’n meddwl am ddod yn warchodwyr plant llawrydd.
  • Startups. Guide: Sut i gychwyn Meithrinfa Ddydd.

Bwyd/Lletygarwch

Gwallt a Harddwch